“Mae’n bosibl dydych chi ddim yn berffaith, ond mae’n bosibl y byddwch chi’n rhiant maeth perffaith.” Dyma’r neges y tu ôl i ymgyrch ddiweddaraf Cyngor Rhondda Cynon Taf er mwyn dod o hyd i gartrefi ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan y Cyngor.
Mae gwisgo sanau a sandalau ar y traeth, dawnsio’n wael, rhoi hosan goch yn y peiriant golchi gyda’r dillad gwyn, a cheisio creu cacen pen-blwydd gartref i gyd yn rhan o’r hwyl o fod yn aelod o deulu.

Yn anffodus, mae’n bosibl i’r 457 o blant yn Rhondda Cynon Taf, sy’n digwydd bod mewn gofal, beidio â chael y profiadau yma.
O ganlyniad, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn chwilio am bobl i ymuno â’r llu o rieni maeth proffesiynol ac ymroddgar sy’n ennill bywoliaeth trwy groesawu plant a phobl ifainc i mewn i’w cartrefi a’u bywydau nhw.
Mae’n flaenoriaeth bwysig gan yr awdurdod i ddod o hyd i rieni maeth lleol, o fewn ffiniau’r awdurdod. Mae hyn er mwyn amddiffyn pobl ifainc fregus rhag dioddef tristwch ychwanegol yn sgil cael eu symud o’u cartrefi a’u milltir sgwâr cyfarwydd i leoedd mor bell i ffwrdd â Bryste neu Gaerloyw oherwydd prinder rhieni maeth yn Rhondda Cynon Taf.
Mae ymgyrch hysbysebu newydd wedi cael ei lansio sy’n cynnwys hysbysebion tafod-yn-y-boch ar hysbysfyrddau, hysbysebion deniadol ar fysiau, yn ogystal ag apeliadau ar y radio, yn y cyfryngau ac ar sianel ddigidol y Cyngor.
Mae eisoes 153 o rieni maeth yn Rhondda Cynon Taf ac maen nhw’n dod o bob cefndir cymdeithasol, gan gynnwys cyplau o’r un rhyw, mamau sengl, cyplau sydd wedi ymddeol a theuluoedd.
Mae rhieni maeth yn gweithio mewn amrywiaeth o ffyrdd, nid yn unig i gynnig llety i bobl ifainc am gyfnod hir neu am dymor byr, ond hefyd maen nhw’n cynnig cymorth, cyfarwyddyd a’r sail gadarn maen nhw ei hangen er mwyn troi dalen newydd a byw bywydau llewyrchus ac annibynnol.
Mae rhai yn cynnig gofal seibiant ac yn gofalu am blant ychydig wythnosau bob blwyddyn er mwyn cynnig seibiant i rieni maeth neu warcheidwaid eraill. Mae rhai eraill yn cynnig cartrefi diogel a chefnogol i bobl ifainc sy’n aros eu prawf yn y ddalfa.
Mae rhai yn gofalu am fabanod yn unig. Mae rhai yn gofalu am blant yn eu harddegau yn unig. Mae amrywiaeth o ffyrdd i chi fod yn rhiant maeth.
Mae cymorth proffesiynol a hyfforddiant ar gael i bob un o’r rhieni maeth, ac mae cyfle i ennill cymwysterau swyddogol ym maes gofal plant. Mae ffïoedd a lwfans hael ar gael, yn ogystal â chymhellion megis cael mynediad am ddim i weithgareddau hamdden ar gyfer y teulu cyfan.
Mae modd i rieni maeth ennill hyd at £22,000 y flwyddyn.
Meddai’r Cynghorydd Annette Davies, Aelod o’r Cabinet ar faterion Plant a Chydraddoldeb: “Rydyn ni’n falch iawn o’r ymgyrch yma ac yn gobeithio y bydd hi’n parhau i fod o gymorth i’n hymdrechion ni i ddod o hyd i’r cartrefi gorau posibl ar gyfer plant a phobl ifainc.
“Erbyn hyn, mae pobl yn chwilio am ffyrdd hyblyg o gael ennill bywoliaeth ac rydw i’n eu hannog nhw i ystyried maethu. Mae gwasanaeth ymholiadau gyda ni sy’n helaeth ac yn gyfrinachol ac mae’n fodd i bobl gael gwybod mwy am faethu a phenderfynu a ydy’r yrfa yma’n addas iddyn nhw. Mae hyd yn oed modd iddyn nhw gwrdd â’r rhieni maeth presennol a chael sgwrs anffurfiol os ydyn nhw eisiau.
“Y cyfan sydd angen ei wneud yw ffonio ac mae’n bosibl y byddwch chi’n cymryd camau tuag at gael gyrfa newydd a heriol sy’n werth chweil. Byddwch chi’n gweithio o gartref er mwyn cynnig y sylfaen gorau i fywydau pobl ifainc eraill.
“Does dim meini prawf penodol. Mae’n bosibl mai chi yw’r rhiant maeth perffaith i ni, felly codwch y ffôn, da chi!”
Os hoffech chi gael gwybod mwy ynglŷn â sut i fod yn rhiant maeth a chyfrannu at newid bywydau plant - yn ogystal â manteisio ar fudd-daliadau hael, hyfforddiant a chymorth proffesiynol - ffoniwch 0800 085 2635, e-bost fostercare@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu ewch i www.rhondda-cynon-taf.gov.uk/fostercare