Lansio ymgyrch Glyn-coch Glyn Gwyrdd

Mae cynllun arloesol newydd, sy’n anelu at droi Glyn-coch yn bentref diwastraff cyntaf Cymru, wedi cael ei lansio drwy gynnal diwrnod o weithgareddau i’r teulu.

Lansio ymgyrch Glyn-coch Glyn Gwyrdd

Roedd cannoedd o bobl wedi heidio i’r achlysur yma a gafodd ei drefnu gan Gymunedau’n Gyntaf Glyn-coch. Roedd trigolion ac ymwelwyr yn mwynhau diwrnod llawn o weithgareddau hwyl er mwyn lansio her gyffrous sy’n anelu sicrhau bod 95% o’r holl gartrefi a’r busnesau’n ailgylchu deunyddiau sych a gwastraff bwyd.

Mae’r cynllun hefyd yn anelu at sicrhau bod y trigolion i gyd yn parchu’r amgylchedd; bod pob ardal gyhoeddus yn cael ei chadw’n dwt ac yn daclus; does dim gwastraff wedi’i adael yn anghyfreithlon yn y pentref; a bod y rheini sy’n berchen ar gŵn wedi cofrestru’u hunain ar restr o berchnogion da.

Lansio ymgyrch Glyn-coch Glyn Gwyrdd

Cafodd y cynllun ei lansio ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Glyn-coch Green And Friendly Action Group mewn achlysur yn Ysgol Gynradd Craig-yr-hesg.

Roedd y plant a’r oedolion wrth eu bodd o gael gweld dawnswyr hip hop Glyn-coch, Greg Roberts sy’n canu ac ysgrifennu caneuon, crochenwaith a cherflunio coed helyg, defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu er mwyn creu gemwaith, cerfio pren, stondin banc amser, cyngor ynglŷn â materion cyflogaeth, sgiliau pêl-droed gydag Academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, a chestyll neidio. Roedd hefyd digon o wybodaeth ar gael ynglŷn â chynllun Glyn-coch Glyn Gwyrdd ac amrywiaeth o gynlluniau amgylcheddol eraill sy’n cael eu hyrwyddo gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Lansio ymgyrch Glyn-coch Glyn Gwyrdd

Meddai’r Cynghorydd Anthony Christopher, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o’r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Rheng Flaen: “Er i ni ddisgwyl tywydd garw, roedd diwrnod y lansio yn llwyddiant ysgubol. Cafodd trigolion ac ymwelwyr eu hysbrydoli gan yr holl gynlluniau ecogyfeillgar mae’r Cyngor a’i bartneriaid yn eu gweithredu yn Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd.

Lansio ymgyrch Glyn-coch Glyn Gwyrdd

“Mae cynllun Glyn-coch Glyn Gwyrdd yn gynllun pwysig sy’n cael ei arwain gan garfan Gwasanaethau Gofal y Strydoedd. Rydyn ni’n gobeithio bydd y trigolion yn parhau i roi cymorth i ni sefydlu pentref diwastraff cyntaf Rhondda Cynon Taf a Chymru. Bydd Glyn-coch yn gosod esiampl i nifer o gynlluniau ‘gwyrdd’ eraill ar hyd a lled gwledydd Prydain.”

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun yma, cysylltwch â Chydlynydd Cymunedau’n Gyntaf neu ffoniwch Wasanaethau Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf ar 01443 827712.

Lansio ymgyrch Glyn-coch Glyn Gwyrdd

Beth yw’r cynllun yma?

Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar wella pob agwedd ar amgylchedd y pentref a chynnig hyfforddiant i bobl trwy raglen Cronfa Swyddi’r Dyfodol.

Bydd y cynllun yn ceisio cyflogi 10 aelod o staff yn ystod unrhyw gyfnod o 6 mis, felly, bydd o leiaf 30 o bobl wedi gweithio ar y cynllun cyn iddo fe ddod i ben. Bydd yr aelodau yma o staff yn canolbwyntio ar nifer o faterion yr amgylchedd, gan gynnwys:-

  • Codi ymwybyddiaeth ynglŷn â materion yr amgylchedd
  • Codi ysbwriel
  • Wardeiniaid Gorfodi yn y Gymuned
  • Trin tir sydd wedi tyfu’n wyllt
  • Ailgylchu
  • Perchnogion cŵn da
  • Rhoi’r gorau i ddefnyddio bagiau plastig

Lansio ymgyrch Glyn-coch Glyn Gwyrdd

Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein gweithwyr ni’n dod o bentref Glyn-coch a bod hynny’n magu balchder bro.

Lansio ymgyrch Glyn-coch Glyn Gwyrdd

Sut bydd y cynllun yn gweithio?

Mae’r cynllun yma’n ceisio cynnig cymorth a chefnogaeth i’r ymdrechion a’r datblygiadau sydd eisoes ar waith yng Nglyn-coch, a sicrhau bod yr ardal yn cymryd camau tuag at fod yn Bentref Diwastraff ymhen 18 mis.

Mae nifer o ardaloedd ar yr ystâd sydd â garejis sy’n dadfeilio, yn ogystal â llwybrau a darnau o dir sydd wedi tyfu’n wyllt. Mae pob un o’r ardaloedd yma’n dioddef problemau o ran ysbwriel, baw cŵn a gwastraff wedi’i adael anghyfreithlon, neu maen nhw eisoes wedi dioddef y problemau yma.

Lansio ymgyrch Glyn-coch Glyn Gwyrdd

Bydd craidd y garfan yn mynd i’r afael â chodi ymwybyddiaeth ynglŷn â materion yr amgylchedd ac, yn benodol, byddan nhw’n mynd o ddrws i ddrws ar yr ystâd er mwyn cynyddu nifer y bobl sy’n ailgylchu deunyddiau sych a gwastraff bwyd – mae modd ailgylchu’r deunyddiau yma yn rhad ac am ddim fel rhan o’r cynllun casglu wythnosol.

Bydd y garfan hefyd yn gweithio gyda charfan codi ymwybyddiaeth Gwasanaethau Gofal y Strydoedd, ac yn cynnal sesiynau siarad a rhaglenni gwaith gydag ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â materion yr amgylchedd ar yr ystad ac yn y gymuned ehangach.

Bydd y garfan hefyd yn gweithio gyda phob busnes sydd yn y pentref er mwyn sicrhau eu bod nhw hefyd yn gweithio tuag at fod yn Bentref Diwastraff. Byddan nhw’n sicrhau bod y clybiau’n ailgylchu pob potel a chan; sicrhau bod y caffis a bwytai yn ailgylchu gwastraff bwyd; a sicrhau does dim hawl gan unrhyw siop gornel gynnig bagiau plastig yn unol â bwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Lansio ymgyrch Glyn-coch Glyn Gwyrdd

Bydd Carfan Gorfodi Gwasanaethau Gofal y Strydoedd hefyd yn ymchwilio i achosion o ysbwriel a gwastraff wedi’i adael yn anghyfreithlon a mynd i’r afael â nhw. Byddan nhw hefyd yn rhoi cymorth i aelodau o’r staff sy’n codi ymwybyddiaeth trwy ddefnyddio pwerau deddfwriaethol.

Bydd carfan arbennig yn sicrhau bod y pentref yn lân. Bydd y garfan yma’n codi ysbwriel a gwagio biniau’r ystad bob dydd a mynd i’r afael ag unrhyw dipio anghyfreithlon. Bydd y Garfan Gorfodi yn cael gwybod am y mannau sy’n dioddef mwyaf er mwyn iddyn nhw gynnal ymchwiliad.

Lansio ymgyrch Glyn-coch Glyn Gwyrdd

Bydd y garfan olaf, yn benodol, yn mynd i’r afael â darnau o dir sydd wedi tyfu’n wyllt, ac adfer y tiroedd yma gyda’r gobaith y byddan nhw’n troi’n erddi a fydd yn cael eu cynnal gan y gymuned yn y pendraw.

Mentrau Eraill - yn ddibynnol ar nawdd

Bydd angen mentrau isadeiledd eraill er mwyn cyd-fynd â’r cynllun o wella elfen amgylcheddol y pentref. Mae rhai o’r mentrau yma i’w gweld isod, ond dydy’r rhestr yma ddim yn gyflawn ac mae rhai o’r mentrau’n ddibynnol ar nawdd gan gyrff eraill:

  • Darparu Canolfan Ailgylchu fach i’r gymuned
  • Darparu banciau ailgylchu i fusnesau
  • Darparu cerbydau trydan
  • Darparu bagiau am oes
  • Datblygu siop sgrap ar gyfer beiciau / deunyddiau tasgau’r cartref
  • Darparu bylbiau golau sy’n arbed ynni

Os bydd pawb yn cydweithio, bydd hi’n bosibl datblygu Glyn-coch yn Bentref Diwastraff.


Cynnwys wedi’i awdurdodi gan: Marketing & Communications Team
Adolygwyd ar: 10/11/2009