Mae cerflun ysbrydoledig newydd yn croesawu gyrwyr sy’n dod i Bontypridd. Amcan pennaf ‘Undod’, o waith y cerflunydd Andy Hazell, yw atgoffa pawb o hanes unigryw’r dref.
Mae’r gwaith celf nodedig hwn yn cyfarch gyrwyr wrth iddyn nhw ddod i mewn i hen dref farchnad Pontypridd o’r A470. Dyma dystiolaeth unwaith yn rhagor o ymrwymiad parhaus Cyngor Rhondda Cynon Taf i adfywio’r dref.

Y GWAITH: Y cerflunydd Andy Hazell yn goruchwylio’r gwaith ar ‘Undod’.
15 metr yw uchder y gwaith celf cyhoeddus syfrdanol hwn. Defnyddiodd y cerflunydd enwog Andy Hazell 1,3280kg o ddur wrth greu’r ddelw hon.
Mae Andy, sy’n byw yn Nhrefyclo, Powys, ar y rhestr fer i greu celfwaith comisiwn yn Llundain ar gyfer y Gemau Olympaidd yno yn 2012.
Cafodd Andy’i ddewis o blith 77 o artistiaid, o sawl gwlad, i ddylunio tirnod trawiadol ar gyfer Pontypridd. Mae’i gerflun ‘Olwyn Dramiau’ yn denu llawer o bobl i’r Hengoed, ac mae’i ‘Ôl Bawd’ anferthol o flaen pencadlys Heddlu Abertawe yn destun difyrrwch i laweroedd.
‘Cydgyfeirio’ yw thema ganolog y cerflun. Yma ym Mhontypridd mae dwy afon yn cwrdd, yn ogystal â sawl ffordd a rheilffordd a miloedd o bobl. Cynhaliodd Andy Hazell nifer o weithdai i ddechrau. Ar sail yr hyn a glywodd yno fe aeth ati i greu’r braslun cyntaf ar gyfer ‘Undod’. Roedd y dyluniad cyntaf hwn yn ymgorffori tair o brif elfennau tref Pontypridd.

DARNAU: rhannau ‘Undod’ yn disgyn i’w lle ger y ffordd i mewn i Bontypridd
Tair elfen sydd i’r cerflun, sef ‘Olwyn’, ‘Pont’, a ‘Llong’. I ddechrau, maen nhw’n ein hatgoffa fod yma tri dyffryn, sef Rhondda, Cynon, a Thaf. Mae delwedd yr Olwyn yn ein hatgoffa sut roedd Rheilffordd Dyffryn Taf wedi trawsffurfio tref Pontypridd. Yn sgîl gosod y cledrau hyn daeth pobl yn eu miloedd i ymgartrefu yma. Ac ar hyd y cledrau hyn yr aeth aur du’r glo i lawr i Gaerdydd ac oddi yno i bedwar ban byd. Yn y flwyddyn 1913, aeth 57 miliwn o lo drwy orsaf Pontypridd yn unig.
Mae’r ail elfen, sef y Bont, yn ein hatgoffa o’r Hen Bont a gododd William Edwards ym 1756. Roedd adeiladu’r Hen Bont yn un o ryfeddodau’r oes, a death yn enwog fel y bont un bwa hiraf yn Ewrop yr adeg honno.
Mae’r drydedd elfen, sef y Llong, yn ein hatgoffa fod ein diwydiant glo wedi cadw’r Llynges Brydeinig i fynd am flynyddoedd. Cysylltiad arall â’r môr yw Gwaith Cadwyni Brown Lenox, oedd yn sefyll gerllaw tan yn ddiweddar. Cadwyni Brown Lenox a gymerodd le rhaffau ar longau. Mynnai’r peiriannydd mawr Isambard Kigndom Brunel ddefnyddio cadwyni Brown Lenox ar rai o’i longau enwog ef.

CELF: adeiladu ‘Undod’ ger y ffordd i mewn i Bontypridd
Mae’r cerflun trawiadol hwn yn tynnu sylw pawb sy’n mynd heibio iddo. Mae’n dathlu hanes a diwylliant Pontypridd yn eu holl amrywiaeth, ac yn hybu hyder y gymuned leol. Amcan gosod y cerflun yn y pendraw yw ennyn balchder bro ymhlith trigolion Pontypridd a’r cylch, a holl gymuned Rhondda Cynon Taf.
£99,000 oedd cost y comisiwn ar gyfer contract creu ‘Undod’. Roedd nifer o wahanol gyrff wedi cyfrannu at hyn. Ymhlith y rhain roedd Cyngor Celfyddydau Cymru, Celf a Busnes Cymru, Cyngor Tref Pontypridd, Cwmni Marchnad Pontypridd, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae cwblhau ‘Undod’ yn garreg filltir arall yn hynt llwyddiannus ein rhaglen adnewyddu barhaus ar gyfer Pontypridd. Mae’r rhaglen wedi creu nifer o gampau eraill. Ymhlith y rhain mae’r datblygiad newydd ar bwys Tŷ Pennant, y tai bwyta a’r siopau arbenigol newydd, cynllun goleuo’r Hen Bont a Thraphont Brunel, a symud y traffig o Taff Street yn ystod yr oriau siopa prysuraf yno.

HWYLIO YMLAEN: Andy Hazell ar fwrdd ei ‘long’ ger Pontypridd
“Dyma waith celf gogoneddus”, meddai’r Cynghorydd Paul Cannon, Aelod o’r Cabinet ar faterion Datblygu’r Economi a Thai. “Bydd y trysor newydd hwn yn ennyn diddordeb anhygoel ymhlith trigolion Pontypridd a’n hymwelwyr fel ei gilydd. Rwy’n hollol hyderus y bydd pobl yn gweld ‘Undod’ yn garreg filltir o bwys ar hynt prif dref Rhondda Cynon Taf tuag at adfywio dilys.
“Mae magu’r berthynas rhwng tref neu ddinas a’r brif arweddau a gwrthrychau ynddi yn gyfraniad pwysig iawn at hyrwyddo hunaniaeth y lle. Yn aml iawn, pethau gweladwy iawn fel hyn sy’n denu pobl i ymweld â’r dref neu ddinas. Dyna’n union ein bwriad ni wrth osod ‘Undod’ ger y ffordd i fewn i Bontypridd.
“Roedd hi’n hen bryd i roi cychwyn i raglen adfywio ym Mhontypridd. Yn rhan o’r rhaglen hon mae’r cynlluniau goleuo newydd, trefniadau rheoli traffig, a’r cynlluniau ar gyfer gwella strydlun Pontypridd. Mae ‘Undod’ yn gyfraniad pwysig dros ben i’r rhaglen hon.
“Mae angen i ni newid y ffordd y bydd pobl yn edrych ar ganol y dref. Wrth reswm, fe hoffen ni weld ymwelwyr yn dod i fwynhau profiad siopa unigryw. Ond mae’r dref yn llawn atyniadau hanesyddol a diwylliannol sy’n cyfareddu rhywun.
“Rwy’n argyhoeddiedig y bydd y cerflun hwn yn denu llawer iawn yn rhagor o ymwelwyr i Bontypridd. Byddan nhw ar dân eisiau profiad o’r tirwedd a ysbrydolodd gelfwaith mor drawiadol.”
“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wrth eu bodd yn cefnogi’r cerflun hwn i Bontypridd”, meddai’r Dr. Kath Davies, Pennaeth Ariannu’r Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y prosiect hwn yn chwarae rhan bwysig yng ngwaith adfywio’r ardal. Mae’n dathlu hanes y lle mewn ffyrdd arloesol a chyffrous.
Cafodd y cerflun ei gwblhau ychydig dros fis ar ôl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf lawnsio ymgyrch farchnata i ddenu pobl at y llu o atyniadau sydd ym Mhontypridd. Cafodd yr ymgyrch ei lawnsio ar cyd â’r wefan newydd sy’n hysbysu’r cyhoedd o’r holl gampau a gyflawnodd Carfan Materion Adfywio’r Cyngor. Fe gewch arni wybodaeth hefyd am y cynlluniau cyffrous newydd sydd ar y gweill, y llu o achlysuron a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ym Mhontypridd, a’r holl amrywiaeth o siopa ac adloniant sydd ar gael yn y dref. Yn ogystal â hyn oll, mae’r wefan yn rhoi’r newyddion diweddaraf sy’n berthnasol i’r dref.
Hoffech chi ragor o fanylion am waith hybu ac adfywio Pontypridd? Croeso i chi ymweld a gwefan www.loveponty.com.