Mae’r Cynghorydd Russell Roberts, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi mynegi’i siom bersonol yn sgîl cyhoeddiad gan gwmni Bosch ei fod yn bwriadu dod i’r gwaith cynhyrchu i ben yn ei ffatri yn y Meisgyn, a fydd yn golygu cau’r ffatri’n gyfan gwbl a nifer sylweddol o swyddi’n cael eu colli.
Meddai Russell Roberts, Cynghorydd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:
“Rydyn ni wedi’n siomi’n arw o glywed y newyddion yma, sy’n dod ar gyfnod go anodd i’r economi yn dilyn colli swyddi blaenorol yn Rhondda Cynon Taf.
“Mae ardaloedd Llantrisant a Phont-y-clun wedi gweld cannoedd o bobl yn colli’u swyddi mewn cwmnïau o fri megis L’Oreal, Staedtler a’r Serious Food Company. Dyma ergyd drom arall i’r economi leol.”
“Mae llawer o weithwyr Bosch yn byw yn y Fwrdeistref Sirol a bydd y newyddion yn ergyd drom iddyn nhw. Rydyn ni ar ddeall y gallai tua 800 o swyddi gael eu colli dros gyfnod wrth i’r gwaith cynhyrchu ddirwyn i ben yn raddol.”
“Rydw i wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i sicrhau bod Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud popeth yn ei allu i hwyluso’r sefyllfa, a cheisio osgói’r sefyllfa o golli nifer sylweddol o swyddi. Serch hyny, rhaid derbyn mai penderfyniad masnachol gan Bosch yw hyn.”
“Oni fydd modd osgoi colli swyddi, rydw i wedi gofyn bod pob ffynhonnell arall o gymorth ar gael i weithwyr i’w helpu nhw i ddod o hyd i swyddi eraill neu fanteisio ar hyfforddiant a mathau eraill o gymorth.”
“Yn y tymor hir byddwn ni’n ceisio trefnu cyfarfod â’r Prif Weinidog newydd i dynnu sylw at yr holl golli swyddi, ac yn bwysicach, y swyddi mwyaf medrus, yn economi Rhondda Cynon Taf. Mae nifer y colledion yn gofyn am ymdrech ar y cyd a sylw Llywodraeth y Cynulliad, fel sydd wedi digwydd yn rhannau eraill o Gymru, a bydda i’n gweithio tuag at sicrhau’r cymorth yn fater o flaenoriaeth.”
Diwedd:-