Mae’ch hawl chi i breifatrwydd yn bwysig iawn inni. Pan fyddwch chi’n dewis rhoi gwybodaeth amdanoch chi’ch hun inni, rydych chi’n ymddiried y byddwn ni’n gweithredu mewn ffordd gyfrifol, ac rydyn ni’n cydnabod hynny.
Dim ond gwefan www.rhondda-cynon-taf.gov.uk sy’n dod o dan y datganiad preifatrwydd yma.
Dim ond y wefan sy’n dod o dan y datganiad preifatrwydd yma.
Dydyn ni ddim yn defnyddio briwsion i gasglu gwybodaeth am ddefnyddwyr. Byddwn ni’n casglu digon o wybodaeth amdanoch inni allu gweinyddu system ein gweweinydd, a dim rhagor.
Mae’n bosibl y bydd gwefan e www.rhondda-cynon-taf.gov.uk yn cynnwys cysylltau â gwefannau eraill. Ymhlith y rhain bydd gwefannau adrannau llywodraeth, a chyrff eraill. Dim ond ein gwefan ni sy’n cael ei chynnwys gan ein polisi preifatrwydd ni. Cofiwch hyn bob tro wrth ichi symud i wefan arall. Os ewch chi at wefan sy’n casglu gwybodaeth bersonol, cofiwch ddarllen ei datganiad preifatrwydd.
Os rhowch chi unrhyw wybodaeth bersonol inni, fyddwn ni byth yn ei phasio ymlaen i wefan arall.
Bydd ein system yn cofnodi’ch cyfeiriad ebost. Os cyflwynwch wybodaeth arall inni, bydd y system yn cofnodi honno hefyd. Caiff yr wybodaeth yma’i thrin yn berchnogol ac yn gyfrinachol. Efallai y bydd yn cael ei defnyddio ar gyfer arolwg mewnol ac i’ch hysbysu am ddiweddariadau i wefan www.rhondda-cynon-taf.gov.uk.
Newidiadau i’r polisi preifatrwydd yma Os bydd y polisi preifatrwydd yma’n newid mewn unrhyw ffordd, byddwn ni’n rhoi fersiwn wedi’i diweddaru ar y dudalen yma. Cofiwch edrych ar y dudalen yma’n rheolaidd. Dyna’r ffordd i wneud yn siŵr y byddwch yn ymwybodol bob amser o ba wybodaeth gasglwn ni. Fel hyn fe gewch chi wybod sut byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth, ac, os rhannwn ni’r wybodaeth â phartïon eraill, ym mha amgylchiadau wnawn ni hynny.