Bob mis Mai, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ethol Maer newydd i fod yn llysgennad i’r ardal, ac i gynrychioli’r gymuned leol, democratiaeth leol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae’r Maer yn penodi Maer arall, sef Cydymaith y Maer, i’w gefnogi yn ei flwyddyn yn y swydd. Ac yntau’n Brif Ddinesydd y Fwrdeistref, mae’r Maer yn mynd ati i hyrwyddo’r ardal leol ymhlith pobl byd busnes ac ymwelwyr, yn ogystal â chodi proffil y gymuned leol a’r Cyngor.
Drwy gydol y flwyddyn, bydd y Maer yn cwrdd â phobl o bob oed ac o bob math o gefndiroedd. Yn ôl y statud, mae’r Maer yn cael blaenoriaeth dros bawb yn y Fwrdeistref, heblaw am Ei Mawrhydi y Frenhines neu ei chynrychiolydd, neu’r Arglwydd Raglaw. Un o dasgau pwysicaf y Maer yw cadeirio cyfarfodydd llawn y Cyngor er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn dilyn rheolau’r ddadl ac er mwyn cadw trefn.
Bydd y Maer yn gwisgo cadwyn y swydd pan fydd yn cynrychioli’r Fwrdeistref. Yn ogystal â bod yn Brif Ddinesydd y Fwrdeistref, bydd y Maer yn croesawu cynrychiolwyr o’n gefeilldrefi ni, yn mynd i achlysuron dinesig fel Sul y Cofio, ac yn codi arian i’w ddewis elusen.
Maer Rhondda Cynon Taf 2009/2010, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol, Robert Smith


Mae’n anrhydedd i mi gael fy ngwahodd i gynrychioli’r Fwrdeistref Sirol, trwy fod yn brif ddinesydd, a chael fy mhenodi’n llysgennad i Rondda Cynon Taf – y tu mewn a’r tu allan i ffiniau’r awdurdod lleol.
Cefais fy ngeni yn Lloegr, ond rydw i’n Gymro trwy ddewis. Daw fy ymrwymiad i’r cymoedd, a’r ddealltwriaeth sydd gen i ynglŷn â’r ardal, o deulu fy ngwraig a’m cydweithwyr i, ac roedd hi’n fraint cael gweithio gyda nhw.
A minnau’n Ddirprwy Faer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi cwrdd â nifer o bobl sydd wedi creu argraff arna i gyda’u gwaith, ac rydw i’n deall pam mae angen cymorth ariannol arnyn nhw.
Mae cymaint o achosion da sydd angen rhywun i hyrwyddo’u gwaith nhw ac i gynnig modd iddyn nhw godi arian hollbwysig.
Mae’n fraint gen i gael dyletswydd sy’n rhoi cyfle i mi, gyda chymorth fy ngharfan a phobl garedig Rhondda Cynon Taf, gyfrannu at dair o achosion da sy’n agos at fy nghalon,
Mae modd i chi gael gwybod mwy am yr elusennau rydw i wedi’u dewis trwy glicio ar y cysylltiadau ar ochr dde’r dudalen yma.
Rydw i’n gobeithio codi cymaint o arian ag sy’n bosibl ar gyfer elusennau Diabetes UK (Cymru), Cymorth Canser Macmillan a Help for Heroes.
Mae blwyddyn lawn achlysuron ac ymgyrchoedd codi arian wedi’i threfnu er mwyn codi proffil yr elusennau yma, yn ogystal â chodi mwy o arian iddyn nhw. Rydw i hefyd yn gobeithio bydd digwyddiadau o’r math yn gyfle i gynnal ychydig o ddiwrnodau hwyl a nosweithiau gwych i’r rheini a hoffai ymuno â mi!
I gloi, edrychaf ymlaen at y flwyddyn nesaf ac at gwrdd â chymaint o bobl ag sy’n bosibl, yn ogystal â gweithio ym mhob cwr o’r sir a thu hwnt. Rydw i’n ddiolchgar iawn am y fraint yma, ac rydw i’n ymwybodol o’r bobl sydd wedi rhoi cymorth i mi a’r rheini sydd wedi dal y swydd yma ag anrhydedd.
Hoffwn i ddefnyddio’r cyfle yma i ddweud diolch wrth fy rhagflaenydd, y Cynghorydd Margaret Davies, a’i chydymaith hi, John. Rydw i’n gwybod yn iawn eu bod nhw wedi cael eu croesawu ac wedi cynrychioli’r sir gydag urddas ac angerdd.
Rydw i’n gobeithio bod modd i mi ddilyn yr esiampl maen nhw wedi’i gosod, gyda chymorth fy nirprwy i, y Cynghorydd Simon Lloyd.