
O dan Ddeddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996, mae’n drosedd i adael i’ch ci faeddu mewn mannau cyhoeddus a pheidio â chodi’r gwastraff a chael gwared arno’n gywir. Yn y cyd-destun yma, mae man cyhoeddus yn cynnwys ffyrdd, llwybrau troed, parciau, meysydd parcio ac ati.
Rydyn ni’n darparu biniau penodol mewn parciau lleol a mannau eraill bydd pobl yn eu defnyddio i gerdded eu cŵn yn rheolaidd. Gallwch chi hefyd roi baw cŵn mewn bin sbwriel arferol dim ond i chi ei roi mewn bag plastig a chlymu’r bag yn dynn.
Os nad oes bin baw cŵn na bin sbwriel ar hyd eich taith, eich cyfrifoldeb chi yw codi’r gwastraff a’i fynd ag ef adre gyda chi er mwyn cael ei wared.
Rydyn ni’n cynnal rhaglen addysg sy’n cynnwys gwybodaeth am beryglon baw cŵn. Gall dod i gyswllt â baw cŵn arwain at fynd yn ddall drwy’r haint, Toxocara Canis.
Rydyn ni’n cyflogi Wardeniaid Gorfodi Gofal y Strydoedd sy’n gallu rhoi hysbysiad cosb benodedig o £75 am bob trosedd sy’n ymwneud â baw cŵn.

Os byddwch chi’n gadael i’ch ci faeddu mewn man cyhoeddus a ddim yn clirio’r baw, byddwch chi’n cael hysbysiad cosb benodedig o £75.00 am y drosedd yn unol â phwerau Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 a Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
O dan y rheoliadau, gall y person sydd â gofal dros yr anifail adeg y baeddu gael y ddirwy o £75 os na fyddan nhw’n codi’r baw yn syth ar ôl i’r anifail faeddu.
Os byddwch chi’n gadael i’ch ci faeddu mewn unrhyw fan cyhoeddus awyr agored yn Rhondda Cynon Taf, gallwch chi gael dirwy o £75. Er mwyn gwneud yn siŵr na fyddwch chi’n cael dirwy, codwch faw eich ci ar ei ôl a rhowch y baw yn y Bin Baw Cŵn agosaf. Os nad oes bin baw cŵn na bin sbwriel ar eich ffordd pan fyddwch chi'☺n cerdded y ci, eich cyfrifoldeb chi yw codi’r baw a’i fynd ag ef adref er mwyn cael gwared arno.
Gellir talu â siec neu archeb bost yn enw: CBS Rhondda Cynon Taf a dylid ei anfon at: Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd, Gwasanaethau Gofal Strydoedd Rhondda Cynon Taf, Tŷ Glantaf, Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd, CF37 5TT, drwy’r post neu ei ddosbarthu â llaw.
Os ydych chi wedi cael Hysbysiad Gosb Benodedig gan un o Swyddogion Gorfodi Gofal y Strydoedd, bydd gofyn i chi, yn unol â thelerau’r gosb, dalu’r ddirwy o fewn 14 diwrnod o gyhoeddi’r hysbysiad.
Os byddwch chi’n dewis peidio â thalu’r ddirwy o fewn yr 14 diwrnod, bydd y Cyngor yn bwrw ymlaen â threfniadau i’ch erlyn drwy achos llys fel rhan o bolisi’r Awdurdod i wella’r amgylchedd ac i leihau trosedd sy’n ymwneud â’r amgylchedd o fewn ffiniau Rhondda Cynon Taf.
Os hoffech chi ddweud wrthon ni am broblem baw cŵn, defnyddiwch y ffurflen ar-lein isod neu ein manylion cyswllt sydd ar waelod y dudalen.
Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni, nodwch gymaint o wybodaeth â phosibl gan gynnwys y canlynol ...
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal y Strydoedd
Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT
Ffôn: 01443 494700
Ffacs: 01443 844310
E-bost: Customer.Services@rhondda-cynon-taf.gov.uk