Dogfennau cysylltiedig:

Ysgolion – cludiant

Gwybodaeth gyffredinol

Nod yr Awdurdod Addysg Lleol (AALl) ydy trefnu

system gludiant a fydd yn ceisio cludo

disgyblion yn ddiogel, yn gyfforddus ac yn

urddasol. Dyma’r egwyddorion y byddwn ni’n

eu cymhwyso ar gyfer pob un o wasanaethau’r

AALl sy’n cael eu cyflawni

dan gytundeb.

Darparu cludiant am ddim

Mae’n ddyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion i’w hysgolion perthnasol os ydyn nhw’n byw pellter sydd y tu hwnt i ‘bellter cerdded’ o’r ysgol honno. Mae’r gyfraith yn diffinio ‘pellter cerdded’ yn ddwy filltir i ddisgyblion cynradd a thair milltir i ddisgyblion uwchradd.

Dewisodd Rhondda Cynon Taf, fodd bynnag, bennu’r pellteroedd hyn yn filltir a hanner i ddisgyblion ysgolion cynradd, iau a babanod, a dwy filltir i ddisgyblion ysgol uwchradd a myfyrwyr 16 -19 oed sy’n mynd i golegau addysg bellach.

Pan fo disgyblion, o ganlyniad i ddewis y rhieni,

yn mynychu ysgol heblaw’r ysgol draddodiadol

leol a nododd y Cyngor, mae rhaid deall mai’r

rhieni sy’n gyfrifol am yr holl drefniadau cludo,

oni bai fod y ddewis ysgol yn nes at gartref y

disgybl na’r ysgol draddodiadol leol. Mae meini

prawf ‘pellter cerdded’ yn dal i gyfrif.

Defnyddio’r adnoddau’n effeithlon fydd yr

ystyriaeth a fydd yn pennu’r dull cludo (yn

amodol ar ofynion anghenion arbennig) ym

mhob achos. Mae’n bosibl mai dan amodau gwasanaethau cludiant

ysgol dan gytundeb, neu wasanaethau cludiant

cyhoeddus cyfredol bydd plant yn cael eu cludo i’r

ysgol. Bydd y ffactorau hyn, ynghyd â maint a

math y cludiant (bws, bws mini, trên, tacsi ac

ati) yn dibynnu ar y dewis mwyaf cost-effeithiol.

Plant a chanddyn nhw anghenion

addysgol arbennig

(Gall hyn newid os bydd y Llywodraeth yn

newid y ddeddf). Bydd cludiant am ddim i bob

disgybl sy’n mynychu dosbarthiadau arbennig nad

ydyn nhw’n cael eu cynnal yn eu hysgolion

eu hunain. Mae dosbarthiadau

arbennig yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer p

lant sydd ag anawsterau dysgu dwys,

dosbarthiadau adfer, dosbarthiadau arsylwi,

dosbarthiadau i’r trwm eu clyw, unedau lleferydd

ac iaith, unedau awtistiaeth, dosbarthiadau

ymaddasu, unedau atgyfeirio disgyblion ac

unedau ar gyfer disgyblion sydd ag anableddau

corfforol.

Cludiant i ysgolion gwirfoddol

cymorthedig

Mae disgyblion sy’n mynychu’r ysgol wirfoddol

gymorthedig agosaf mae enwad eu rhieni yn eu

cynnal yn cael eu cludo’n rhad ac am ddim os b

ydd hynny’n cyfateb â’r pellter cerdded y

cytunodd y Cyngor arno.

Cludiant arbennig am resymau

meddygol

Mae cludiant arbennig am ddim rhwng yr ysgol

a’r cartref os bydd Swyddog Meddygol /

Iechyd / Uwch Seicolegydd Addysg yn argymell

hynny. Bydd angen cadarnhad gan yr AALl yn dilyn ystyriaeth o’r holl opsiynau cludiant a bydd cludiant o’r fath yn cael ei adolygu’n

rheolaidd.

Trefniadau arbennig ar gyfer teithiau

peryglus

Mae’r Cyngor yn arfer ei hawl i amrywio’i

wasanaeth yn ôl yr anghenion sy’n ymddangos.

Rydyn ni’n cydnabod y bydd rhai achosion yn

codi lle bydd rhai llwybrau’n cael eu hystyried

yn beryglus. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’r

Cyngor yn cadw’r hawl i drefnu cludiant ysgol am

ddim ar gyfer pellter llai na’r arferol, os yw’r

swyddogion priodol yn argymell hynny er mwyn

gofalu bod y plant yn ddiogel.

Yn unol â’r

polisi, byddwn ni’n adolygu’r llwybrau hyn bob

dwy flynedd. Bydd y Cyngor yn ystyried y meini

prawf isod wrth ddod i benderfyniadau o’r fath:

• does dim gwasanaeth bws ar gyfer y daith

rhwng y cartref a’r ysgol;

• bod perygl mawr y bydd damwain i’r plant

a’r rhieni sy’n eu hebrwng oherwydd bod y

  • drafnidiaeth mor enbyd o drwm.

Teithwyr sy’n prynu tocyn

O bryd i’w gilydd, mae’n bosib y bydd nifer y

plant sy’n cael eu cludo yn llai nag

uchaflwyth y cerbyd. Mewn achosion o’r fath,

bydd y Cyngor yn cadw’i hawl, yn ôl yr awdurdod

sydd gydag e, i gynnig y lleoedd gwag i blant

sydd â llai o daith na’r pellteroedd sydd wedi’u

nodi uchod.

Pan fo lle fel hyn ar gael, fe

fyddwn ni’n codi tâl penodol o £30 y pen bob

tymor – yr arian i’w dalu ymlaen llaw. Mae rhaid

i bawb ddeall nad ydy hi’n ofynnol i’r Cyngor i

ddarparu cyfleuster o’r fath, a chan fod y cyfan

yn gwbl ddibynnol ar faint o leoedd dros ben

sydd ar y cerbyd, mae’n bosibl y gallai ddod â’r

trefniadau yma i ben heb lawer o rybudd.

Teuluoedd sydd wedi symud tŷ – trefniadau cludo

Fydd disgyblion y mae’u teuluoedd yn symud i

fyw y tu allan i ardal leol, draddodiadol yr ysgol

maen nhw’n ei mynychu ddim yn cael cludiant

am ddim i’r ysgol os bydd hynny’n digwydd yn

ystod cyfnod addysg gynradd, neu flwyddyn

saith, wyth neu naw addysg uwchradd. Byddwn ni’n ystyried ceisiadau ar ran

disgyblion sy’n symud yn ystod blwyddyn 10

ac 11 fesul un. Fel arfer, byddwn ni’n darparu

cludiant o’r fath os yw’n bosib ei gynnig yn

rhan o’r gwasanaethau cyfredol, heb achosi

traul ychwanegol ar adnoddau’r awdurdod.

Cwestiynau Cyffredin

Mae cwestiynau ac atebion am ddarparu cludiant ysgol ar gael yn yr adran Dogfennau Cysylltiedig.

Gweithdrefnau monitro a thrafod

cwynion

Bydd pob cerbyd i’w archwilio ar hap gan

Gomisiynwyr Trafnidiaeth, neu gorff addas arall,

yn ôl y gofyn. Byddwn ni’n ymchwilio i unrhyw

gwynion gaiff y Cyngor gan rieni am y

gwasanaethau neu’r cerbydau ar unwaith. Os

bydd cwyn yn cael ei chadarnhau, byddwn ni’n

rhoi blaenoriaeth i gymryd y camau

angenrheidiol a phriodol yn unol â thelerau’r

cytundeb.

Bydd y Cyngor yn trefnu haparchwiliadau ynglŷn

â chytundebau – i ofalu bod y cwmnïau cludo

yn parchu telerau y cytundeb mewn modd sy’n dderbyniol i’r Cyngor

– heb gyhoeddi’r diwrnodau ymlaen

llaw. Byddwn ni’n cynnwys mynegyddion

cyflawniad yn amodau yn y cytundebau yn rhan

o’r broses fonitro. Bydd y rhain, ymhlith pethau

eraill, yn ymwneud â phrydlondeb ac â

bodlonrwydd y clientiaid.

Cysylltwch â ni


Cynnwys wedi’i awdurdodi gan: Transportation Unit
Adolygwyd ar: 3/12/2009