Swyddi gwag

Mae sawl rheswm da dros weithio mewn llywodraeth leol. I ddechrau, bydd yn rhoi teimlad i chi’ch bod chi’n gwneud rhywbeth pwysig iawn dros eich cymuned.

Amcan y Cyngor yw bod yn gyflogwr delfrydol ar gyfer y De i gyd. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu swyddi o ansawdd ac i drin ein holl staff yn gyfartal.

Mae cyswllt ar y dudalen hon i hysbysebion am ein swyddi diweddaraf. Bydd modd ichi:

  • chwilio am swyddi yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi
  • islwytho rhagor o wybodaeth, neu gael enw pobl i siarad â nhw
  • islwytho ffurflenni cais
  • llenwi’r ffurflen ar-lein (gyda’r rhan fwya o swyddi)
  • cael y cyfeiriad lle dylech chi anfon y ffurflen

Cofiwch fod dyddiad cau ar gyfer pob swydd. Rhaid anfon eich cais i’r cyfeiriad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw.

Pan ddaw eich cais i law, byddwn ni’n ei asesu’n hollol deg. Os cewch eich enw’i ddewis i’r rhestr fer, byddwn ni’n eich gwahodd i gyfweliad. Byddwn ni’n rhoi gwybod ichi hefyd os na fydd eich enw ar y rhestr fer.

Cliciwch yma am swyddi addysgu.

Cliciwch yma am swyddi eraill.

Positive about disabled people logo


Cynnwys wedi’i awdurdodi gan: Web Team
Adolygwyd ar: 14/3/2008