Mae Cyngor yn chwarae rhan bwysig pan fydd argyfwng. Bydd ei swyddogaeth yn amrywio gan ddibynnu ar y math o argyfwng sydd dan sylw a’r sefyllfa ar y pryd.
Mewn achos o ddamweiniau mae cemegau, tanau, a deunyddiau ymbelydrol yn chwarae rhan ynddyn nhw, mae’n bosib y bydd gofyn ichi gysylltu â’r gwasanaethau brys, y Cyngor ac asiantaethau eraill.
Bydd un o Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ar gael 24 awr dydd, bob dydd. Bydd hwnnw’n delio â phroblemau brys yn ymwneud â iechyd yr amgylchedd – o ddigwyddiadau difrifol, peryglon i iechyd sydd ar fin digwydd, neu lygriadau difrifol yn yr amgylchedd.
Daw ymbelydredd o ddwy ffynhonnell. Daw peth ymbelydredd naturiol o ddeunyddiau sy’n gorwedd yn y Ddaear. Mae peth yn cyrraedd o’r gofod fel gronynnau. Prosesau o waith bodau dynol sy’n gyfrifol am ymbelydredd artiffisial.