Mae’r Cyngor yn derbyn nifer o geisiadau oddi wrth drigolion yn gofyn am fesurau arafu llif y traffig i gael eu cyflwyno ar hyd ffyrdd a gwella materion diogelwch yn ogystal.
Diben camerâu diogelwch yw newid ymddygiad gyrwyr – dim ond mewn safleoedd lle mae hanes o ddamweiniau a achosodd anafiadau a lle mae pobl yn torri’r terfyn cyflymder y maen nhw’n cael eu defnyddio.
Cynnal a chadw croesfannau cerddwyr mewn mannau y mae hi’n debygol y bydd cerddwyr yn gorfod croesi’r ffordd yn yr awdurdod lleol e.e. ar gyffyrdd prif ffyrdd, yn agos at ganolfannau siopa, y tu allan i ysgolion.